Jason Donovan

Jason Donovan

Even More Good Reasons Tour

Archebwch nawr

Daeth Jason Donovan i’n bywydau yn yr 80au fel Scott Robinson yn y gyfres enwog ‘Neighbours’. Drwy gydol 1988/89 cafodd sawl cân yn y siartau a’i albwm ‘Ten Good Reasons’ oedd albwm fwyaf poblogaidd 1989. Roedd ei ganeuon enwog yn cynnwys 'Too Many Broken Hearts’, ‘Especially For You’ (gyda Kylie Minogue), ‘Any Dream Will Do’, ‘Sealed With A Kiss’, ‘When You Come Back to Me’, ‘Everyday’, ‘Nothing Can Divide Us’ a llawer iawn mwy.

Ers hynny, prin y mae wedi bod oddi ar y llwyfan neu’r sgrin. Bu'n ymddangos am gyfnod hir yn y 90’au cynnar yn ‘Joseph’, ac wedi hynny bu yn ‘The Rocky Horror Show’, ‘Chitty Chitty Bang Bang’, ‘Priscilla’, 'The Sound of Music’, ‘Annie Get Your Gun’, ‘The King’s Speech’, ‘Million Dollar Quartet’ a ‘The War Of The Worlds’ Jeff Wayne. Perfformiodd Jason yn y Cyngerdd i Diana, cyrraedd rowndiau terfynol “I’m A Celebrity” a “Strictly Come Dancing”, canfod ei gyndeidiau Awstralaidd ar ‘Who Do You Think You Are’ ac yn 2018/19 teithiodd y wlad yn cwblhau 125 sioe ar ei Daith Amazing Midlife Crisis gan gynnwys wythnos yng Ngwyl Ymylol Caerdedin lle gwerthodd y tocynnau i gyd.

Yn ddiweddar bu Jason yn gweithio ar ei brosiect cynhyrchiad theatr cyntaf, Priscilla, Queen of the Desert a threuliodd yr haf yn ôl ym Mhaladiwm Llundain fel y Ffaro yn Joseph and his Amazing Technicolor Dreamcoat.

Fedr Jason ddim aros i chwarae ei daith gyngherddau cyntaf mewn pedair blynedd gyda’r Daith ‘Even More Good Reasons’  Peidiwch â'i fethu!