Jenůfa

Welsh National Opera

Jenůfa

Janáček

Archebwch Nawr

Mae gan Jenůfa gyfrinach. Mae hi ar fin cael plentyn y tu allan i briodas, ac mae hi eisiau priodi'r tad cyn i'r gyfrinach gael ei datguddio, ond mae gan ei llysfam gynlluniau eraill mewn golwg. Mae gan ei gweithredoedd byrbwyll ganlyniadau ofnadwy i Jenůfa. Wedi ei gosod ar draws saith mis, mae'r ddrama'n datblygu, ac ar ddiwrnod priodas Jenůfa mae'r gwirionedd am yr hyn sydd wedi digwydd yn cael ei ddatguddio.

Mae Jenůfa wedi swyno cynulleidfaoedd am ganrif gyfan gyda'r stori dorcalonnus hon am obaith, cariad ac anobaith. Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, sy'n arwain cynhyrchiad llwyddiannus Katie Mitchell, a ddisgrifiwyd fel 'y mwyaf pwerus eto' pan aeth y cynhyrchiad ar daith ddiwethaf.

Supported by WNO Partners

wno.org.uk/jenufa | #WNOjenufa