Magic of Motown

Magic of Motown

Archebwch nawr

Nid oes syndod fod Magic of Motown, sydd wedi bod gyda ni er 13 o flynyddoedd ac wedi’u gweld gan dros filiwn o bobl, yn un o’r llwyddiannau mwyaf yn hanes y theatr ym Mhrydain.

Dewch i ddathlu gyda ni, gan ein bod yn dod allan i ddechrau adwaith gadwynol a mynd â chi ar daith gerddorol gyda pharti Motown mwyaf y flwyddyn. 

Byddwch yn barod am yr holl ganeuon, gwisgoedd gliter, trefnau dawns dawnus a cherddoriaeth heb ei ail yn y cyngerdd byw ysblennydd hwn.

Byddwch yn ‘Going Loco Down in Acapulco’ wrth i ni’ch tywys ar daith atgofion gyda holl glasuron Motown gan artistiaid fel Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, Four Tops, Martha Reeves, The Jackson 5, Smokey Robinson a llawer iawn mwy. 

Dathlwch sain cenhedlaeth a byddwch yn barod am - The Magic of Motown!