Migrations

Welsh National Opera

Migrations

Will Todd

Archebwch Nawr

Ers cychwyn amser mae natur wedi mudo'n ddiymdrech, ond yng nghyd-destun dynolryw mae o hyd yn fwy cymhleth. Drwy gyfres o chwe stori, gan chwe awdur o gefndiroedd amrywiol, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio ymfudo o amryw safbwynt: o ymfudiad adar i hwylio'r Mayflower 400 mlynedd yn ôl; o hanes caethwas Affricanaidd Caribïaidd ym Mryste i brofiad y meddygon Indiaidd sy'n gweithio yn y Gig.

Mae Migrations yn opera hynod uchelgeisiol newydd gan y cyfansoddwr Prydeinig, Will Todd. Yn ymuno â Cherddorfa WNO estynedig mae cast o 100 o berfformwyr sy’n cynnwys côr gospel, dawnswyr Bollywood a chorws plant.

wno.org.uk/migrations | #WNOmigrations