Curtains
-

Curtains

A Musical Whodunnit

-
Archebwch nawr

Llofruddiaeth yn cyflwyno sioe gerdd newydd – yn llythrennol!  Mae seren sioe newydd Broadway wedi'i lofruddio ar y llwyfan ar y noson agoriadol!  Mae’r cast a’r criw cyfan yn cael eu hamau.  Mae’n rhaid galw’r ditectif lleol, Frank Cioffi.  Gyda dawn i ddatrys trosedd a chlust gerddorol, mae Frank yn ceisio canfod y llofrudd tra’n ceisio achub y sioe.

Yn cynnwys Jason Manford (The Producers, Chitty Chitty Bang Bang, Guys and Dolls) a Carley Stenson (Les Miserables, Legally Blonde, Shrek, Spamalot a Hollyoaks), mae’r sioe yn llawn caneuon cofiadwy, cymeriadau gwych a throeon annisgwyl!  Gan gynhyrchwyr Cabaret a Chicago, bydd y sioe gerdd dirgelwch llofruddiaeth sydd wedi ennill gwobr Tony yn achosi i gynulleidfaoedd chwerthin a dyfalu hyd at y diwedd un.

www.curtainsmusical.com