Jane Eyre
-

Jane Eyre

Blackeyed Theatre, ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau South Hill Park

-
Archebwch nawr

Campwaith gothig o angerdd tymhestlog a chyfrinachau tywyll, mae Jane Eyre yn adrodd hanes merch amddifad a'i thaith o blentyndod unig a chreulon i fywyd yn Thornfield Hall a pherthynas annisgwyl gyda Mr Rochester.  Gan syrthio mewn cariad, mae’n datgelu gorffennol cudd Thornfield Hall, cyfrinach ofnadwy sy’n ei gorfodi i wneud dewis torcalonnus.

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld addasiad llwyfan newydd Blackeyed Theatre o un o gampweithiau gorau ffuglen Saesneg.  Yn bwerus ac yn cipio eich sylw, mae Jane Eyre yn bortread bythgofiadwy o ymgais un ddynes i gael cydraddoldeb a rhyddid, ac yn parhau i fod yn un o’r campweithiau gorau erioed.