Footloose
-

Footloose

-
Book now

Yn dilyn dwy daith a sicrhaodd glod y beirniaid a chyfnod ar y West End, mae Footloose yn ôl ac yn well nac erioed gyda'r anhygoel Gareth Gates (Pop Idol ITV, Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat, Les Miserables, Loserville, Legally Blonde) yn dychwelyd i roi perfformiad di-fai fel y cowboi hoffus Willard. 

Mae bachgen y ddinas Ren yn credu fod bywyd yn ddigon drwg pan gaiff ei orfodi i symud i ganol cefn gwlad yn America. Ond daw ei fyd i stop pan mae’n cyrraedd Bomont i ddarganfod fod dawnsio a cherddoriaeth roc wedi’u gwahardd. Gan gymryd materion i’w ddwylo ei hun, mae Ren yn troi’r lle wyneb i waered a chael yr holl dref ar ei thraed.

Yn seiliedig ar y ffilm wych o’r 1980'au a gafodd lwyddiant ledled y byd, mae Footloose llawn ysbryd, hwyl a’r dalent gerddorol orau yn y DU.

Gyda choreograffi modern o’r radd flaenaf, byddwch yn mwynhau caneuon o’r 80’au gan gynnwys Holding Out for a Hero, Almost Paradise, Let's Hear It For The Boy ac wrth gwrs y gân fythgofiadwy Footloose.  

‘You leave feeling like you can change the world’ 

Manchester Evening News