Westlife

Westlife

Taith Stadiums in the Summer

Archebwch nawr

Bydd y sêr pop Gwyddelig yn cyrraedd mwy o gefnogwyr nag erioed o’r blaen wrth iddynt gychwyn ar eu taith fwyaf awyr agored o’r DU erioed.  

Bydd Westlife - y grŵp sydd wedi gwerthu’r mwyaf o albymau yn y DU yn y G21 - yn teithio’r DU yn 2020 gyda’u Taith Stadiums in the Summer â 15 dyddiad.

Bydd taith fawreddog yr haf, sy’n cynnwys dyddiad yn Stadiwm Zip World ddydd Sul 5 Gorffennaf 2020, yn gweld brenhinoedd byd pop yn perfformio eu caneuon gorau gan gynnwys ‘Swear It Again', ‘Flying Without Wings’, a ‘You Raise Me Up’ yn ogystal â chaneuon cyflym newydd sbon danlli o’u halbwm diweddaraf ‘Spectrum’. 

Cyflwynir y dyddiad yn Stadiwm Zip World gan Orchard Live & LHG Events ac mae’n dilyn llwyddiant ysgubol taith yr haf hwn ‘Twenty Tour’ – y daith a werthodd allan gyflymaf erioed gan Westlife.

 “The reaction to our comeback tour was beyond anything any of us ever imagined so we’re going to do it all over again but this time in some of the largest outdoor venues in the UK. The shows are going to be incredible and will include all our greatest hits. We can’t wait to perform at Stadiwm Zip World in Colwyn Bay”, dywed y band.

Mae Westlife wedi gwerthu mwy na 55 miliwn o recordiau ledled y byd a nhw yw’r unig fand i gael eu saith sengl gyntaf yn mynd syth i frig siartiau’r DU. Nhw hefyd sydd â’r mwyaf o senglau o blith unrhyw artist i fynd mewn i’r siartiau ar rif 1 yn y DU. Ar y cyfan, mae gan y band 14 rhif un, gyda dim ond Elvis Presley a The Beatles ar y blaen iddynt. Maent wedi cael 33 albwm yn cyrraedd rhif 1 ledloed y byd ac fel act fyw maent wedi gwerthu 5 miliwn o docynnau cyngerdd ledled y byd.