Remembering the Oscars

Aljaz & Janette

Remembering the Oscars

Archebwch nawr

Yn syth o’u taith hynod ddiddanol ac arloesol Remembering The Movies, bydd Aljaz a Janette yn dychwelyd gyda’u sioe newydd Remembering The Oscars. Byddwch yn barod i ddathlu caneuon sydd wedi ennill Oscar yn y sioe ddawns newydd gyffrous gyda hoff gwpl Strictly, Aljaz a Janette.

Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys ffefrynnau Disney’r teulu, drwy Oes Aur Hollywood a Bollywood, gyda chaneuon gan Lady Gaga, Adele, Prince, Queen, Eninem, Celine Dion a Barbra Streisand, ynghyd â chlasuron gan gyfansoddwyr gwych fel Burt Bacharach, John Barry, Rodgers & Hammerstein, Irving Berlin a llawer mwy.

Gyda chast o ddawnswyr a cherddorion anhygoel a dyluniadau llwyfan a gwisgoedd trawiadol a sgrin LED enfawr bydd yn sicr yn noson i'w chofio.

Peidiwch â phoeni os na allwch gyrraedd yr Oscars eleni, bydd y sioe hon cystal â hynny!